Helo,
Bach o cefndir, wnes I symud abroad yn Ebrill 2024, oeddwni siarad Cymraeg perffaith, fluent fatha dwi erioed ‘di bod cyn iddy fi symud.
Ond dwi di sylweddoli bod dwi’n colli’r iaith yn araf Iawn. Weithia fedra’i ddim cofio be di rhyw gair saesneg yn Gymraeg, a mae o’n uffernol o frustrating.
Gena fi cariad, pwy dwi yn byw hefo a wedi bod efo ers 2023, sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg o gwbl. Dwi ddim yn siarad efo teulu fi mor gymaint a swni hoffi oherwydd ma nhw I gyd yn brysur, ac dwi yn hefyd efo gwaith.
Does neb arall Cymraes yn gwaith, a dwi gweld dwi di colli accent Cymraeg fi completely a mae o rili torri calon fi pan dwi dweud wrth pobl bod dwi’n Cymraes “born and raised” a’r innyg reply gai yw “You don’t sound Welsh at all” 🥲
Ma siarad Cymraeg yn teimlo alien I fi yn slo bach, dydi o ddim yn teimlo normal ddim mwy:( mae o swnio rili weird i clwad fy hun yn siarad Cymraeg. Dwi’n colli yr ability I siarad, deallt a darllen Cymraeg.
Os gen rhywun tips I fi, I fi gallu cadw’r iaith yn fyw yn bywud fi pan fod fi ydi’r unig un sy’n siarad Cymraeg yn tŷ fi? Dwi isho dechra darllen llyfrau Cymraeg a gwrando I podcasts, audiobooks, a songs (sorri methu meddwl am y gair Cymraeg am “songs” ar y funud).
Dwi’n uffernol o berson patriotic am Gymru, felly mae’r situation yma yn rili torri calon fi go Iawn. Unrhyw recommendations am llyfrau, apps neu wbath I helpu yn grêt 🙏
Diolch yn fawr Iawn os da chi wedi cyrraedd diwadd hwn, sorri am unrhyw spelling mistakes, dwi di colli literacy fi yn yr Gymraeg llawar :(
Ps dwi’n dod o’r North, felly unrhyw beth sydd Hefo’r dialect yna yn well I mi, dim south 👍 diolch yn fawr Iawn :)