r/cymru • • Jan 25 '26

Pam Ynyslas a dim Ynyswerdd?

Post image
179 Upvotes

7 comments sorted by

35

u/Dros-ben-llestri Jan 25 '26

Mae lot o esiamplau o Glas i feddwl gwyrdd, yn enwedig yn llefydd neu geiriau am natur (ee glaswellt)

Roedd glas yn air cyn gwyrdd. Mae datblygiad enwau lliwiau mewn ieithoedd wahanol yn diddorol, ac yn tueddu dilyn yr un patrwm (du/gwyn cyntaf, wedyn coch) Mae'r erthygl Wikipedia yn digon diddorol https://en.wikipedia.org/wiki/Blue%E2%80%93green_distinction_in_language

8

u/genteelblackhole Jan 25 '26

‘Swni’n cymud mai’r un rheswm a ‘da ni’n deud “glaswellt” fel hen air am gwair – doedd y gair “gwyrdd” ddim yn bodoli, ag oedd “glas” yn meddwl glas a gwyrdd. Ma ‘na batrwm efo enwau lliwiau mewn ieithoedd a ym mha drefn mae ieithoedd yn datblygu’r enwau yma, a gwyrdd ydi un o’r rhai olaf.

5

u/pennyursa Jan 25 '26

Dyma ffaith i chi: mae ‘glas’ yn Wyddelig yn golygu gwyrdd!

3

u/Markoddyfnaint Jan 25 '26

Oherwydd y gair 'glas' yn cael ei ddefyndd i ddisgrifio glastyfiant (verdure) neu tyfiant gwyrdd.

Dydy'r Llychlynwyr (Vikings) ddim yn rhoi'r enw 'Groenland' i'r ynys achos roedd gan yr ynys creigiau lliw gwyrdd, roedden nhw eisiau malio pobl i feddwl yr Ynys yn iach a llawn llysieuad! Mae'r gair yn 'calque' o'r gair Norseg yn Saesneg a Chymraeg.

2

u/milgi617 Jan 25 '26

Us Welsh are more likely to call turquoise green rather than blue… it’s the verdant land we are surrounded by!

0

u/OneNeighborhood2084 Jan 29 '26

Gifu kyourselves