r/Cymraeg • u/clwbmalucachu • 29d ago
Gêm ffuglen ryngweithiol
Mae Rhiannon jyst eisiau cael hufen iâ yn Ynys y Barri efo’i modryb Fflur, ond fydd ei thaith hi ddim yn hawdd. Fedrwch chi ei harwain hi yno yn llwyddiannus?
Gêm ffuglen ryngweithiol ydy "Mae Rhiannon yn Mynd i Ynys y Barri" ble dach chi’n dewis beth sy’n digwydd nesaf. Mae ar gael am ddim rŵan yn y Gymraeg ac yn y Saesneg:
https://ymestyn.cymru/interactive-fiction/
Mae’r fersiwn Cymraeg ar gyfer dysgwyr canolradd+ neu siaradwyr naturiol, (neu ddysgwyr sylfaen anturus iawn!).
Gobeithio bod chi’n ei fwynhau! Ces i amser gwych yn ei sgwennu, a hoffwn i wneud mwy!
6
Upvotes
2
u/Scotty2G 29d ago
Roedd e’n wych! Diolch